Grant datblygu disgyblion
Datganiad Grant Datblygu Disgyblion: Ysgol y Dderwen
Dyrennir y Grant Datblygu Disgyblion (GDD) i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (PYDd) a disgyblion sydd wedi ‘derbyn gofal’ yn barhaus am fwy na chwe mis (Plant Mewn Gofal).
Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim neu sy’n PMG.
Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham canlynol:
- Nodi’r grŵpiau targed o ddisgyblion, eu nodweddion a’u hanghenion dysgu
- Cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau
- Monitro a gwerthuso effaith yr adnoddau.
Defnyddir y cyllid ar gyfer:
➢ cyflogi staff allweddol
➢ darparu rhaglenni ymyrraeth a chefnogaeth emosiynol ac academaidd
➢ darparu a defnyddio systemau tracio data i adnabod anghenion y dysgwyr, targedu ymyrraethau a monitro effaith
➢ prynu adnoddau ychwanegol ar gyfer gweithgareddau’r grwpiau targed
Cysylltwch â’r ysgol am ragor o wybodaeth am y cyllid a ddyrannwyd fesul blwyddyn academaidd.