CWRICWLWM O GYFLE!

CWRICWLWM Y DDERWEN!

Mae Cwricwlwm Y Dderwen yn ennyn brwdfrydedd pob disgybl, gan roi sylfaen iddynt sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy’n newid.

Ein nod yw meithrin cariad at ddysgu a fydd yn sail gadarn iddynt gydol eu hoes.

 

GWELEDIGAETH EIN CWRICWLWM

 

Mae lles ein disgyblion wrth galon ein cwricwlwm. Mae gweledigaeth ein cwricwlwm wedi’i gwreiddio yng ngwerthoedd a diwylliant Cymru. Mae datblygiad llythrennedd a rhifedd yn greiddiol iddo, ochr yn ochr â datblygu’r rhinweddau i blant fod yn ddysgwyr da, gan mai dyma’r sgiliau bywyd hanfodol i bob plentyn allu cael mynediad i ddysgu yn y dyfodol.

Mae ein plant yn dysgu orau trwy gyfleoedd dysgu ymarferol; mae’r rhain yn eu galluogi i brofi dysgu mewn ffordd ystyrlon sy’n adlewyrchu eu diddordebau a’u hanghenion.

Rydym yn teilwra dysgu i roi cyfleoedd i blant ddatblygu sgiliau ac archwilio cysyniadau. Bydd y rhain yn eu galluogi i adeiladu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth trwy destunau a fydd yn dal eu diddordeb ac yn ysgogi eu dychymyg. Byddant yn datblygu’r hyder i wneud penderfyniadau a hyderwn y gallwn roi’r wybodaeth, y sgiliau a’r rhinweddau i bob disgybl ar gyfer heriau’r dyfodol fel dysgwyr gydol oes.

Eisiau Gwybod Mwy am Gwricwlwm Y Dderwen? Cliciwch YMA

Cysylltwch â Ni