O DDYDD I DDYDD!
Flickr
Mae staff Ysgol y Dderwen yn deall pwysigrwydd darparu profiadau eang a gwerthfawr i’n disgyblion.
Mae profiadau dysgu o ansawdd uchel yn galluogi ein disgyblion i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r byd o’u cwmpas ac yn rhoi cyfleoedd dysgu iddynt na fyddent yn eu cael fel arall. Gydag amser, daw ein disgyblion yn fwy hyderus ac annibynnol.
Mae’r ysgol wedi sylwi bod ein disgyblion ar eu hapusaf pan fyddant yn treulio amser yn yr awyr agored. Caiff hyn effaith gadarnhaol ar les disgyblion a’u hymwneud â dysgu.
Sgroliwch drwy’r lluniau diweddaraf ar y dde, neu ewch i’n tudalen ar wefan Flickr: