Gair o Groeso
Llythyr Croeso
Croeso cynnes iawn i chi a’ch plentyn i Ysgol y Dderwen.
Yn ystod y cyfnod y bydd eich plentyn o dan ein gofal, fe wnawn ein gorau i sicrhau y bydd bob amser yn hapus ac yn ddiogel yn ein plith ac yn derbyn addysg o’r radd flaenaf.
Mae pob plentyn yn bwysig i ni, beth bynnag fo’i gefndir, a’n braint ni, fel cymuned, yw eu symbylu a’u hysbrydoli, un ac oll, fel y cânt gyfle i gyrraedd eu llawn botensial. Rydym am weld holl ddisgyblion yr ysgol yn llwyddo a hynny o fewn awyrgylch cefnogol ac ysgogol lle bo parch at eraill – yn gyd-ddisgyblion ac yn oedolion fel ei gilydd – yn ganolog i’r cyfan a wnawn.
Mae’r Gymraeg a’i diwylliant cyfoethog wrth wraidd ein cenhadaeth a bydd pob disgybl yn gadael yr ysgol maes o law yn hyderus ddwyieithog.
Hyderaf y bydd y wybodaeth ar y wefan hon yn sail ar gyfer partneriaeth gref a chydweithio hapus rhwng y cartref a’r ysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â’r ysgol.
Yn gywir,
Llio Dyfri Jones


