Gweledigaeth

Gweledigaeth

Credwn yn gryf fod taith pob plentyn o fewn yr ysgol yn unigryw a gwerthfawr a rhown bwyslais ar ddarparu profiadau dysgu cyfoethog ac ysgogol sy’n eu galluogi i gyrraedd y brig uchaf posibl. Gwnawn hynny bob amser mewn awyrgylch diogel a chartrefol lle mae pawb yn parchu ei gilydd. Mae ein diwylliant, ein treftadaeth a’n hanes fel Cymry yn ganolog i’r cwricwlwm ac yn fodd o ysbrydoli ein disgyblion i ymfalchïo yn eu Cymreictod.

Nod yr Ysgol

Darparu addysg a gofal o’r radd flaenaf mewn awyrgylch hapus, ysgogol a diogel fel bod pob plentyn, beth bynnag fo’i allu, yn cyrraedd ei lawn botensial.

Amcanion yr Ysgol

  1. Darparu amgylchedd hapus, cartrefol ac ysgogol lle gall pob disgybl lwyddo.
  2. Symbylu pob disgybl i ddatblygu hyd eithaf ei allu, yn academaidd, yn gymdeithasol, yn emosiynol, yn gorfforol ac yn ddiwylliannol.
  3. Sicrhau bod parch at eraill yn ganolog i holl waith yr ysgol.
  4. Sicrhau bod pob disgybl – beth bynnag fo’i gefndir ieithyddol – yn gwbl hapus o fewn awyrgylch Cymraeg a Chymreig yr ysgol.
  5. Sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn hyderus ddwyieithog erbyn iddynt adael yr ysgol.
  6. Datblygu medrau sylfaenol y disgyblion ym mhob agwedd ar y cwricwlwm gan gofio eu hoed a’u gallu.
  7. Magu ymhlith y disgyblion ymwybyddiaeth a’r awydd am ddimensiwn ysbrydol bywyd, parch at werthoedd crefyddol a goddefgarwch at hiliau a chrefyddau eraill.
  8. Hyrwyddo arferion diogelwch yn yr ysgol, y cartref a’r gymuned ehangach.
  9. Creu ymwybyddiaeth ymysg y disgyblion o’r angen am lendid personol, moesgarwch a chwrteisi.
  10. Creu cysylltiad agos rhwng y cartref a’r ysgol fel y gall rhieni ac athrawon gydweithio’n agos er lles pob plentyn.

Cysylltwch â Ni