Mae gan yr ysgol gymdeithas o rieni ac athrawon gweithgar iawn ac yr ydym fel ysgol yn dra diolchgar iddynt am eu hymdrechion diflino. Mae rhaglen amrywiol ganddynt bob blwyddyn.
Rhoddir croeso cynnes iawn i bob rhiant ac yn arbennig i rieni newydd.
Mae cysylltiad agos rhwng y rhieni â’r ysgol a chroesewir eu cyfraniadau’n fawr.